Rhestr o’r dogfennau yn Llyfrgell y Gymdeithas:
( a gedwir trwy drefniant gan Yr Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan )
Trefniadau Ymweld
Mynediad i Lyfrgell y Gymdeithas, Amgueddfa Werin San Ffagan:
Er mwyn sicrhau argaeledd pob deunydd, dylid cysylltu ag Emma Lile drwy alwad ffôn (02920) 573432.
RHAID rhoi wythnos o rybudd er mwyn paratoi’r deunydd.
Gellir hefyd cysylltu â Rhodri Jones, Llyfrgellydd y Gymdeithas drwy alwad ffôn (02920) 704965 neu e-bost: rhodrijones@live.com
Mae llyfr cofnod wedi ei osod yng nghwpwrdd y Gymdeithas er mwyn i chi nodi dyddiad eich hymweliad a maes eich diddordeb. Bydd y wybodaeth o ddiddordeb i’r Gymdeithas o ran datblygiadau’r dyfodol.
Mae’r Gymdeithas yn gwerthfawrogi’n fawr iawn gydweithrediad Emma Lile wrth ddarparu’r cyfleuster hwn.