Nodyn sydyn i adael i chi wybod bod Dawnswyr Pen-y-Fai yn dathlu pen-blwydd Rhuddem drwy fynd ar daith ar draws Cymru gyfan y penwythnos yma.
Mi fyddan nhw’n ymweld â: Ffynnon Tâf, Llangurig, Y Fflint, Caernarfon, Y Bermo, Aberystwyth, Llanbadarn a Llanarthne! I weld lle byddant yn dawnsio, lle mae ‘na fwyd ac i le mae ‘na fynediad am ddim mewn gwisg, cliciwch YMA.
Pen-blwydd hapus Pen-y-Fai!